Tasg Sillafu Geiriau Sylfaenol

Mae’r prawf yma yn asesu gallu’r plentyn i sillafu geiriau syml a chyfarwydd iawn y gallent ddod ar eu traws mewn llyfrau plant neu mewn print o gwmpas y lle. Y ddwy eitem gyntaf yw enw’r plentyn ei hun a’r gair MAM; maen nhw’n cael eu defnyddio fel eitemau ymarfer er mwyn dangos i’r plentyn sut i wneud y prawf. Allan o’r wyth gair sy’n weddill, mae tri yn eiriau ystyrlon y gellir eu gweld yn aml, a’r pump arall yn eiriau gramadegol y gellir eu gweld yn aml hefyd.

Ystod oedran

Mae’r prawf yn addas ar gyfer plant Blwyddyn Derbyn a Blwyddyn 1, ac weithiau mae’n briodol ar gyfer plant hŷn sy’n profi anawsterau darllen a sillafu. Hefyd, er na fydd y rhan fwyaf o blant cyn-ysgol wedi dysgu sut i sillafu eto, mae gan lawer ohonynt rai syniadau am ysgrifennu a, hyd yn oed yn y cyfnod hwn, mae’r hyn y gallent ei sillafu’n rhannol, neu’r hyn maent yn ei ddyfeisio, yn gallu dweud rhywbeth wrthym am eu canlyniadau llythrennedd presennol a hwyrach.

Sgorio: cywirdeb

Mae pob sillafiad yn cael ei sgorio am gywirdeb “deuaidd”, hynny yw, mae’r sgoriwr yn rhoi un pwynt am sillafiadau hollol gywir a dim pwynt am sillafiadau anghywir, sy’n creu sgôr allan o 9 (dydi enw’r plentyn ddim yn cael ei sgorio). Er hynny, mae ymarferwyr yn cael eu hannog i drawsgrifio ac i werthuso’n ansoddol sillafiadau dyfeisio’r plant. Mae’r sillafiadau hyn yn gallu rhoi cipolwg gwerthfawr ar syniadau’r plant am y broses sillafu, ac am safon eu meistrolaeth o’r sgiliau cydrannol sy’n cyfrannu at y gallu i sillafu.

Normau

Ar hyn o bryd, mae’r normau ar gael ar gyfer Blwyddyn 1.

Deunyddiau gweinyddu

Taflen Cyfranogwr a phensel neu ben (pa bynnag un a ddefnyddir fel rheol yn nosbarth y plentyn) i’r sawl sy’n cymryd rhan
Cyfarwyddiadau Tasg Sillafu Geiriau Sylfaenol
Taflen Sgorio Tasg Sillafu Geiriau Sylfaenol

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn fwyaf diweddar o’r prawf

Fersiwn prawf: 2

Fersiwn normau: 1

Wedi’i ddiweddaru : 12.03.21

Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.