Gwybodaeth Llythrennau – Tasg Enwi Llythrennau

Mae’r prawf yma yn arholi gwybodaeth y plentyn o lythrennau’r wyddor. Prawf ymateb llafar yw hwn, sy’n gofyn i’r plentyn yngan sain (e.e., /k/) ac enw (e.e., dyweda /ek/) pob llythyren (e.e., “c” neu “C”). Mae gwybodaeth o lythrennau bach a mawr yn cael eu hasesu ar wahân, sy’n creu dau sgôr cywirdeb. Dydy’r prawf hwn ddim yn cael ei amseru, a dylid ei weinyddu’n unigol ar gyfer pob plentyn.

Ystod oedran

Mae’r prawf yn addas ar gyfer plant Blwyddyn Derbyn a Blwyddyn 1, ac weithiau gall fod yn briodol ar gyfer plant hŷn sy’n profi anawsterau darllen a sillafu. Hefyd, er na fydd y rhan fwyaf o blant cyn-ysgol wedi dysgu’r wyddor yn ffurfiol, bydd llawer ohonynt yn gwybod rhai llythrennau a, hyd yn oed yn y cyfnod hwn, gall gwybodaeth llythrennau’r plentyn fod yn ddefnyddiol i ragweld canlyniadau diweddarach o ran llythrennedd.

Sgorio: cywirdeb

Mae is-sgôr yn cael ei gyfrif ar gyfer pob is-sgil sy’n cael ei fesur (gwybodaeth o seiniau ac enwau llythrennau; llythrennau bach a mawr). Mae prif sgôr y wybodaeth am lythrennau yn cael ei greu drwy ychwanegu nifer yr ymatebion cywir ar draws y pedwar is-brawf.

Normau

Bydd gwybodaeth am normau Cymraeg ar gael yn fuan.

Deunyddiau gweinyddu

-Teclyn recordio
-Taflen Cyfarwyddiadau Gwybodaeth Llythrennau – Tasg Enwi Llythrennau
-Taflen Sgorio Gwybodaeth Llythrennau – Tasg Enwi Llythrennau
-Stimuli Gwybodaeth Llythrennau – Tasg Enwi Llythrennau (i dorri allan er mwyn creu cardiau llythyren unigol)

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn prawf fwyaf diweddar:

Fersiwn prawf: 2

Diweddarwyd: 13.03.2021

Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.