Enwi Awtomatig Cyflym (RAN) – Gwrthrychau

Mae’r prawf yn mesur cyflymder enwi eitemau sydd ddim yn alffaniwmerig. Mae’r prawf hwn yn cyflwyno’r eitemau yn weledol felly ni fydd angen dim gwybodaeth rifyddol na llythrennol o flaen llaw. Felly bydd y prawf yn mesur gallu’r plant i gynhyrchu labeli ar lafar i enwi’r gwrthrychau yn rhugl ac yn sydyn.

Ystod Oedran

Oherwydd dydy’r prawf yma ddim yn alffaniwmerig, mae’n addas ar gyfer plant dosbarth derbyn a blwyddyn 1 a 2.

Sgorio (Cyflymder, Gwallau)

Cyflymder: Cyfartaledd yr eiliadau mae’n gymryd i enwi’r holl set o wrthrychau ymhob treial (e.e., (eiliadau o dreial 1 + eiliadau o dreial 2)/2).

Gwallau: Cyfartaledd nifer y gwrthrychau sydd wedi eu henwi yn anghywir neu wedi eu methu (e.e. (gwallau o dreial 1 + gwallau o dreial 2)/2). Bydd cyfradd y gwallau ond yn cael eu hystyried yn ansoddol, oherwydd eu bod fel arfer yn isel iawn.

Normau

Bydd normau Cymraeg ar gael yn fuan.

Deunyddiau gweinyddu

Dyfais recordio

Stopwats

Cerdyn Ymarfer a Phrawf Gwrthrychau RAN

Taflen Sgôr Gwrthrychau RAN

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn prawf fwyaf diweddar:

Fersiwn prawf: 2

Diweddarwyd: 12.03.21



Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.