Telerau Gwasanaeth

Manylion Personol:

Drwy ddefnyddio deunydd MABEL rwy’n ardystio bod y manylion a roddwyd wrth gofrestru yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth. Rwy’n deall y bydd fy enw a’r manylion a roddwyd yn cael eu hychwanegu at y ffeiliau cofrestru cyfrinachol sydd gan MABEL yn ystod Cam 1, tan 31 Mai 2021. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i unrhyw sefydliad arall nac yn cael ei harddangos yn gyhoeddus ar y wefan. Rwy’n deall y gallaf ofyn am gael gwared ar fy manylion trwy gysylltu â gweinyddwyr MABEL gan ddefnyddio’r ffurflen a geir ar y dudalen Cysylltwch. Rwy’n ymwybodol bod y cytundeb hwn yn cael ei ystyried yn ddilysiad o fy llofnod electronig ac yn cadarnhau fy mod yn derbyn y telerau hyn.

Defnyddio’r Profion:

Drwy ddefnyddio deunydd MABEL rwy’n cytuno i amddiffyn didwylledd y profion hyn trwy eu defnyddio at fy nibenion fy hun yn unig. Rwy’n cytuno i fod yn gyfrifol ac yn atebol am ddefnyddio’r profion hyn yn foesegol.  Ni fyddaf yn eu trosglwyddo i unrhyw ddefnyddiwr ac ni fyddaf yn eu hatgynhyrchu na’u haddasu i’w dosbarthu ymhellach. Rwy’n cytuno mai fi a fy sefydliad sydd â’r cyfrifoldeb am drin y data a gafwyd o’r profion, ac nid yr offeryn MABEL neu ddarparwyr yr offer. Rwy’n ymwybodol bod y cytundeb hwn yn cael ei ystyried yn ddilysiad o fy llofnod electronig ac yn cadarnhau fy mod yn derbyn y telerau hyn.