Enwi Awtomatig Cyflym (RAN) – Gwrthrychau

Mae’r prawf yn mesur cyflymder enwi eitemau sydd ddim yn alffaniwmerig. Mae’r prawf hwn yn cyflwyno’r eitemau yn weledol felly ni fydd angen dim gwybodaeth rifyddol na llythrennol o flaen llaw. Felly bydd y prawf yn mesur gallu’r plant i gynhyrchu labeli ar lafar i enwi’r gwrthrychau yn rhugl ac yn sydyn.
Ystod Oedran
Oherwydd dydy’r prawf yma ddim yn alffaniwmerig, mae’n addas ar gyfer plant dosbarth derbyn a blwyddyn 1 a 2.
Sgorio (Cyflymder, Gwallau)
Cyflymder: Cyfartaledd yr eiliadau mae’n gymryd i enwi’r holl set o wrthrychau ymhob treial (e.e., (eiliadau o dreial 1 + eiliadau o dreial 2)/2).
Gwallau: Cyfartaledd nifer y gwrthrychau sydd wedi eu henwi yn anghywir neu wedi eu methu (e.e. (gwallau o dreial 1 + gwallau o dreial 2)/2). Bydd cyfradd y gwallau ond yn cael eu hystyried yn ansoddol, byddant yn isel iawn.
Normau
Bydd normau Cymraeg ar gael yn fuan.
Deunyddiau gweinyddu
Dyfais recordio
Stopwats
Cerdyn Ymarfer a Phrawf Gwrthrychau RAN; Taflen Sgôr Gwrthrychau RAN
Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.