Tasg Darllen Geiriau Am Funud
Mae’r prawf hwn yn asesu effeithlonrwydd darllen geiriau mewn fformat darllen yn uchel am funud. Dewiswyd y geiriau’n fwriadol ac maent yn rhai sy’n weddol gyfarwydd (o leiaf fel geiriau llafar). Maent wedi eu gosod mewn trefn yn ôl anhawster darllen gan ddechrau gyda geiriau hawdd sy’n cynnwys un neu ddau llythyren ac yna’n mynd ymlaen i eiriau hyd at dri sillaf. Dylai hyd yn oed plant sydd mewn Dosbarth Derbyn allu darllen ychydig o’r geiriau, ac mae cyfraddau cywirdeb cyffredinol yn uchel iawn fel rheol o Flwyddyn 1 ymlaen. Mae’r prawf hwn wedi ei gynllunio fel nad yw’n achosi llawer o anhawster i ddadgodio, ac mae’n amcangyfrif rhuglder dadgodio plant.
Ystod Oedran
Mae’r prawf hwn yn addas i blant mewn Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6.
Sgorio (Cywirdeb
Caiff y prif sgôr am ddarllen yn uchel yn effeithlon ei gyfrifo trwy dynnu nifer yr ymatebion anghywir (yn cynnwys geiriau sydd wedi eu sgipio) o gyfanswm yr ymatebion y rhoddwyd cynnig arnynt.
Mae’r prawf hwn yn cynhyrchu lefelau uchel iawn o gywirdeb; felly nid yw camgymeriadau fel rheol yn cael eu cyfrif ar wahân.
Normau
Bydd normau Cymraeg ar gael yn fuan.
Deunyddiau gweinyddu
Dyfais recordio
Stopwats
Taflen Sgorio Darllen Geiriau am Funud
Cerdyn Darllen Geiriau am Funud
Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn fwyaf diweddar o’r prawf
Fersiwn prawf: 1
Fersiwn normau: 1
Wedi’i ddiweddaru :12/03/2021
Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.