Enwi Awtomatig Cyflym (RAN) – Digidau

Mae’r prawf yn mesur cyflymder enwi eitemau rhifyddol ac yn cyflwyno eitemau’n weledol sydd angen gwybodaeth rifyddol. Felly bydd y prawf yn mesur gallu’r plant i gynhyrchu labeli ar lafar i enwi’r digidau yn rhugl ac yn sydyn.
Ystod oedran
Oherwydd mae’n brawf alffaniwmerig, bydd y prawf yma yn addas ar gyfer plant ym mhlwyddyn 1 a 2. Ni fydd y prawf yma yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion y dosbarth derbyn.
Sgorio (Cyflymder, Gwallau)
Cyflymder: Cyfartaledd yr eiliadau mae’n gymryd i enwi’r holl set o’r gwrthrychau sydd ymhob treial (e.e., (eiliadau o dreial 1 + eiliadau o dreial 2)/2).
Gwallau: Cyfartaledd nifer y gwrthrychau sydd wedi eu henwi yn anghywir neu wedi eu methu (e.e., (gwallau o dreial 1 + gwallau o dreial 2)/2).Bydd cyfradd y gwallau ond yn cael ei hystyried yn ansoddol, byddant yn isel iawn.
Normau
Bydd normau Cymraeg ar gael yn fuan.
Deunyddiau gweinyddu
Dyfais recordio
Stopwats
Cerdyn Ymarfer a Phrawf Digidau RAN; Taflen Sgôr Digidau RAN
Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn prawf fwyaf diweddar:
Fersiwn prawf: 2
Diweddarwyd: 12.03.21
Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.