Tasg Cyfuno Seiniau

Mae’r prawf yma’n mesur ymwybyddiaeth ffonolegol, ac yn benodol, mae’n asesu gallu’r plentyn i gyfuno seiniau i greu geiriau go iawn. Mae’r prawf yn cynnwys amryw o eiriau syml iawn o ddau ffonem hyd at eiriau mwy cymhleth a hir sydd â phedwar ffonem. Mae hyn yn fwriadol er mwyn arholi sgil y plentyn i drin ffonemau.

Ystod oedran

Mae’r prawf yn addas ar gyfer plant y Flwyddyn Dderbyn hyd Flwyddyn 3.

Sgorio (cywirdeb)

Mae cywirdeb deuaidd yn unig (h.y., cywir/anghywir) yn cael ei gyfrifo ar gyfer y dasg hon. Os yw’r plentyn yn cynhyrchu’r gair targed cywir mae o/hi’n derbyn un pwynt, unrhyw beth arall ac mae o/hi’n derbyn dim pwynt.
Gall y dasg hon gael ei gweinyddu hyd at y diwedd (10 eitem ar gyfer plant y Flwyddyn Dderbyn, 24 eitem ar gyfer plant hŷn). Er hynny, gweler y nodyn yn Rhan 3 – Cynnal y Prawf (isod) ar gyfer y rheol derfynu.

Normau

Bydd normau Cymraeg ar gael yn fuan.

Deunyddiau gweinyddu

Dyfais recordio
Lluniau hyfforddiant – CAR, HAUL
Taflen Sgorio Tasg Cyfuno Seiniau
Cyfarwyddiadau Tasg Cyfuno Seiniau

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn prawf fwyaf diweddar:

Fersiwn prawf: 3

Diweddarwyd: 12.03.21