Tasg Dileu Ffonemau

Mae’r prawf hwn yn mesur sgiliau ymwybyddiaeth ffonolegol (hynny yw, trin sain lleferydd), yn arbennig, dadansoddi ffugeiriau sy’n wahanol o ran lefelau cymhlethdod ffonolegol. Y ffonemau a dargedir yw cytseiniaid cychwynnol (ffonemau cychwynnol) a chytseiniaid olaf (ffonemau olaf).

Ystod Oedran

Yn addas i blant ym Mlwyddyn 1 sy’n dangos meistrolaeth ( 80%) yn y prawf Ynysu ffonemau, ac ar gyfer plant rhwng 6 a 12 oed (hynny yw, Blynyddoedd 2 i 6 y DU).

Sgorio (Cywirdeb yn erbyn cyflymder)

Caiff cywirdeb a chyflymder eu mesur. Cywirdeb yw’r mesur mwy ystyrlon mewn unrhyw ran o’r prawf (Ffonemau Cychwynnol, Ffonemau Olaf, Cyfanswm) lle nad yw plant wedi cyrraedd meistrolaeth mewn cywirdeb ( 80%) hyd yma. Mae mesur cyflymder yn fwyaf ystyrlon i blant sydd wedi cyrraedd lefel meistrolaeth mewn cywirdeb.

Normau

Mae normau gradd ar gael yn awr i ddisgyblion Blwyddyn 2 am gywirdeb a chyflymder.

Deunyddiau gweinyddu

Dyfais recordio

Stopwats

Taflen Sgôr Dileu Ffonemau

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn prawf fwyaf diweddar:

Fersiwn prawf: 3

Diweddarwyd: 12.03.21