Enwi Awtomatig Cyflym (RAN) – Lliwiau

Mae’r prawf yn mesur cyflymder enwi eitemau sydd ddim yn alffaniwmerig. Mae’r prawf hwn yn cyflwyno’r eitemau yn weledol felly ni fydd angen dim wybodaeth rifyddol na llythrennol o flaen llaw. Felly bydd y prawf yn mesur gallu’r plant i gynhyrchu labeli ar lafar i enwi’r lliwiau’n rhugl ac yn sydyn.

Ystod Oedran

Oherwydd dydy’r prawf yma ddim yn alffaniwmerig, mae’n addas ar gyfer plant dosbarth derbyn a blwyddyn 1 a 2.

Sgorio (Cywirdeb, Gwallau)

Cyflymder:

Cyfartaledd yr eiliadau mae’n gymryd i enwi’r holl set o’r liwiau ymhob treial (e.e., (eiliadau o dreial 1 + eiliadau o dreial 2)/2).

Gwallau:

Cyfartaledd nifer y lliwiau sydd wedi eu henwi yn anghywir neu wedi eu methu (e.e., (gwallau o dreial 1 + gwallau o dreial 2)/2). Bydd y cyfradd gwallau ond yn cael ei hystyried yn ansoddol, oherwydd ei bod fel arfer yn isel iawn.

Normau

Bydd normau Cymraeg ar gael yn fuan.

Deunyddiau gweinyddu

Dyfais recordio

Stopwatsh

Cerdyn Ymarfer a Prawf Lliwiau RAN

Taflen Sgôr Lliwiau RAN

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn prawf fwyaf diweddar:

Fersiwn prawf: 2

Diweddarwyd: 12.03.21

Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.