Enwi Awtomatig Cyflym (RAN) – Llythrennau

Mesur cyflymder ynganu sain y lythyren; hynny yw, dangosir llythrennau ac mae angen gwybodaeth o’r wyddor. Mae’r prawf hwn yn mesur gallu’r plant i ynganu seiniau llythrennau cyfarwydd iawn yn yr wyddor, a gwneud hynny’n gyflym ac yn rhugl.

Ystod Oedran

Gan ei fod yn brawf alffaniwmerig, mae’r prawf hwn yn briodol ar gyfer plant ym mlwyddyn 1 a 2. Nid yw’n briodol i’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn y dosbarth derbyn.

Sgorio (cyflymder, gwallau)

Cyflymder: Cyfartaledd nifer yr eiliadau a gymerir i ynganu seiniau’r set lawn o lythrennau ym mhob treial (hynny yw, (eiliadau treial 1 + eiliadau treial 2)/2).

Gwallau: Cyfartaledd nifer y seiniau llythrennau sydd wedi eu hynganu’n anghywir neu sydd wedi eu hosgoi ym mhob treial (hynny yw (gwallau treial 1 + gwallau treial 2)/2). Sylwch, dim ond ystyriaeth ansoddol a roddir i gyfraddau gwallau gan fod y rhain fel rheol yn isel iawn.

Normau

Bydd normau Cymraeg ar gael yn fuan.

Deunyddiau gweinyddu

Dyfais recordio

Stopwats

Cerdyn ymarfer a phrawf llythrennau RAN

Taflen sgôr llythrennau RAN

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn prawf fwyaf diweddar:

Fersiwn prawf: 2

Diweddarwyd: 12.03.2021

Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.