Tasg Ynysu Ffonemau

Mae’r prawf hwn yn mesur sgiliau ymwybyddiaeth ffonolegol (hynny yw, trin sain lleferydd), yn arbennig ffugeiriau sy’n ahanol o ran lefelau cymhlethdod ffonolegol. Y ffonemau a dargedir yn y prawf hwn yw cytseiniaid cychwynnol (ffonemau cychwynnol) a chytseiniaid olaf (ffonemau olaf).

Ystod Oedran

Yn gysyniadol nid yw Ynysu Ffonemau mor anodd â Dileu Ffonemau ac felly mae’n addas ar gyfer plant ym mlwyddyn derbyn a blwyddyn 1, ac ar gyfer plant hŷn sydd ag anawsterau ffonolegol a/neu lythrennedd a amheuir neu wedi ei gadarnhau.

Sgorio (cywirdeb)

Dim ond cywirdeb sy’n cael ei fesur. Pan fo plant wedi meistroli ( 80%) cywirdeb mewn Ffonemau Cychwynnol a Ffonemau Olaf yn y prawf hwn, dylid ystyried y prawf mwy cymhleth o Ddileu Ffonemau, lle mae cywirdeb ac amser yn cael eu mesur.

Normau

Bydd gwybodaeth am normau Cymraeg ar gael yn fuan.

Deunyddiau gweinyddu

Dyfais recordio

Cyfarwyddiadau’r Prawf Ynysu Ffonemau

Taflen Sgorio’r Prawf Ynysu Ffonemau

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn prawf fwyaf diweddar:

Fersiwn prawf: 3

Diweddarwyd: 12.03.21

Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.