Tasg Paru Llun a Gair

Mae’r dasg yma yn brawf 3-munud o effeithlonrwydd darllen gair unigol distaw. Mae perfformiad medrus yn dibynnu ar wybodaeth y plentyn o’r eitemau geirfa sydd wedi’u darlunio yn ogystal â datgodio digonol o’r pedwar dewis o eiriau wedi’u hargraffu, yn enwedig i wahaniaethu rhwng y gair sy’n edrych neu’n swnio’n debyg i’r gair targed a’r gair targed ei hun.

Ystod Oedran

Mae’r prawf yma yn addas ar gyfer plant Blwyddyn Derbyn i Flwyddyn Pedwar. Mae’n briodol i weinyddu’r prawf i’r plentyn unigol, ac i grwpiau. Mae’r cyfarwyddiadau isod i’r Gweinyddwr wedi cael eu hysgrifennu fel petai y prawf yn cael ei weinyddu i grŵp o blant.

Sgorio (effeithlonrwydd darllen distaw)

Mae’r prif sgôr effeithlonrwydd darllen gair distaw yn cael ei gyfrifo gan dynnu nifer yr ymatebion anghywir ac ymatebion a gafodd eu hepgor oddi wrth nifer yr ymatebion y rhoddwyd cynnig arnynt (gan gynnwys yr eitemau a gafodd eu hepgor) yn ystod y 3 munud.

Sgorio (dadansoddiad camgymeriad)

Mae dadansoddiadau camgymeriad yn rhoi cipolwg i’r Gweinyddwr o dueddiadau camddarllen y plentyn. Mae’r tueddiad i ddewis y gair sy’n edrych a swnio’n debyg i’r gair targed yn gallu adlewyrchu sgil datgodio sy’n rhannol ond annigonol. Mae’r tueddiad i ddewis y gair sydd ag ystyr tebyg i’r gair targed yn gallu adlewyrchu gwybodaeth annigonol o’r eitemau geirfa wedi’u darlunio; adnabyddiaeth wael o luniau gweledol a/neu sgiliau sylw gweledol/chwilio gwan. Mae’r tueddiad i ddewis y gair amherthnasol a/neu i ddangos dewisiad ar hap o fathau o eitemau anghywir yn gallu adlewyrchu sgiliau datgodio gwan ac adnabyddiaeth wan o eiriau yn gyffredinol.

Normau

Mae’r normau trawstoriadol ar gael ar gyfer blynyddoedd 1,3, 4, 5, a 6. 

Deunyddiau gweinyddu

Amserydd
Cyfarwyddiadau Tasg Paru Llun a Gair
Llyfrynnau Tasg Paru Llun a Gair a phensel neu feiro (beth bynnag sy’n arfer cael ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth)

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn fwyaf diweddar o’r prawf

Fersiwn prawf: 3

Fersiwn normau: 1

Wedi’i ddiweddaru : 12/03/2021


Rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at ddeunyddiau prawf.